Dewi Sant & Seintiau yng Nghymru
Roedd holl dîm y prosiect yn bresennol yn Nhyddewi ar 29 Chwefror ar gyfer y digwyddiad diweddaraf yn ein cyfres. Yn y prynhawn cafwyd pedair sgwrs yn Nhŷ’r Pererin, canolfan addysg yr eglwys gadeiriol, yn edrych ar lenyddiaeth ganoloesol yn ymwneud â Dewi Sant, enwau lleoedd yn Sir Benfro a delweddau o Ddewi mewn gwydr lliw modern.
Bu Jenny Day, sydd wrthi’n gweithio ar un o fucheddau Cymraeg Dewi na olygwyd o’r blaen, yn trafod y gwahaniaethau rhwng y bucheddau Cymraeg sydd ar gadw a’r fuchedd Ladin gan Rygyfarch. Soniodd Ann Parry Owen am gerdd Gwynfardd Brycheiniog i Ddewi, yn ogystal â thrafod yr amrywiol eglwysi sydd wedi eu cysegru i Ddewi ar draws de Cymru, cyn i Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr y Ganolfan, ddarllen rhan o gerdd Iolo Goch i Ddewi.
Bu David Parsons yn ystyried dirgelion rhai o enwau lleoedd Sir Benfro sy’n cynnwys – neu sy’n edrych fel eu bod yn cynnwys – enwau seintiau, gan nodi bod nifer fawr o enwau o gwmpas Tyddewi yn cyfeirio at seintiau nad ydynt fel arall wedi gadael unrhyw ôl yn y cofnodion llenyddol na hanesyddol. Yn olaf, bûm i’n dangos enghreifftiau o blith y nifer o ddelweddau o Ddewi a gomisiynwyd ar gyfer eglwysi yng Nghymru, yn bennaf mewn gwydr lliw.
I gwblhau’r prynhawn, ymunodd yr hanesydd Gerald Morgan â ni i sôn am ei lyfr newydd, Ar Drywydd Dewi Sant, a oedd newydd gyrraedd o’r wasg, ac i gyflwyno copi i’r Esgob Wyn. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r llyfr, gweler gwefan y cyhoeddwyr.