Mapio’r Seintiau

Yn ogystal â golygu testunau Cymraeg, rydym yn casglu gwybodaeth am seintiau Cymru – yn seintiau brodorol a rhyngwladol – a’r gobaith yw y bydd y wefan yn gasgliad o waith dibynadwy ar bob agwedd o’r pwnc.

Bydd tudalennau ar bob sant yn ei dro yn cyflwyno gwybodaeth am gysegriadau eglwysig, enwau lleoedd a dyddiau gŵyl. Rydym wrthi’n ymchwilio i ddelweddau canoloesol a modern, ac yn mynegeio testunau canoloesol Cymraeg a Lladin yn ogystal â sampl o ffynonellau ôl-ganoloesol, ac yn llunio llyfryddiaethau.

Seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol
Cerddi i’r Seintiau
Bucheddau’r Seintiau
Achau’r Seintiau
Seintiau yn y Cyfnod Modern