Digwyddiadau

Rydym wedi bod yn rhannu ein gwaith gyda chynulleidfaoedd lleol ar hyd a lled Cymru mewn cyfres o ddigwyddiadau ers 2014. Traddododd aelodau’r tîm anerchiadau mewn cynadleddau rhyngwladol ac i gymdeithasau lleol.

Vitae Sanctorum Cambriae
Bucheddau Seintiau Cymru

speakers and delegates at the Vitae Sanctorum Cambriae conference.

26–7 Medi 2019
Department of Anglo-Saxon, Norse & Celtic, Faculty of English
Prifysgol Caer-grawnt

Roedd y gynhadledd ddeuddydd hon yn cynnwys nifer eang o ysgolheigion yn cyflwyno gwaith diweddar ar fucheddau Lladin a Chymraeg seintiau Cymru.

Siaradwyr: Angela Kinney, Francesco Marzella, Jane Cartwright, Jenny Day, Joshua Byron Smith, Fiona Edmonds, Sarah Waidler, Ben Guy, David Callander, Barry Lewis, Andrew Rabin, Martin Crampin, Karen Jankulak, Thomas Clancy a Paul Russell.

Cynadleddau Rhyngwladol

Cynhaliodd y prosiect dair sesiwn lawn yn rhan o Gyngress Ryngwladol Astudiaethau Canoloesol Leeds ar 1 Gorffennaf 2019, yn cynnwys papurau gan aelodau presennol a chyn-aelodau o’r tîm.

Cyflwynodd y tîm bapurau pellach yn ymwneud â gwaith y prosiect yn yr 16eg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol ym Mangor ar 25 a 26 Gorffennaf.

Abaty Caerloyw a Bucheddau’r Seintiau Cymreig

Sant Dyfrig, St Dubricius, figure in stained glass

Dydd Sadwrn 3 Tachwedd 2018
Chapter House, Eglwys Gadeiriol Caerloyw

Prynhawn o sgyrsiau a fydd yn canolbwyntio ar gysylltiadau Caerloyw â chasgliad o fucheddau i seintiau Cymreig. Cafodd buchedd i Ddyfrig, un o noddwyr eglwys gadeiriol Llandaf, ei hailysgrifennu yng Nghaerloyw, ac mae wedi goroesi hyd heddiw. Mae bucheddau eraill i seintiau Cymreig y credir iddynt gael eu cyfansoddi mewn abatai naill ai yn Nhrefynwy neu yn Aberhonddu ond y gellir dadlau iddynt gael ei seilio ar ddeunydd a gasglwyd yng Nghaerloyw. Cafodd bucheddau eraill eto eu cofnodi mewn casgliad sy’n hanu o Lanllieni, ac mae trydedd gyfrol y casgliad hwnnw bellach ar gadw yn eglwys gadeiriol Caerloyw.

Siaradwyr: Paul Russell, Angela Kinney, Francesco Marzella a Martin Crampin.

Asa, Cyndeyrn a Seintiau Cymru

Sant Asa, St Asaph, medieval stained glass

Dydd Mawrth 4 Medi 2018
Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Cyfle i gwrdd ag ymchwilwyr o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Caer-grawnt yn yr eglwys gadeiriol, a’u clywed yn trafod eu gwaith ar y seintiau Cymreig. Roedd yr arddangosfa ar y seintiau yng Nghymru hefyd i’w gweld yn yr eglwys yn ystod mis Awst.

Seintiau Llandaf

Stained glass window showing St Teilo with the building of Llandaff Cathedral.

Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2017
Ty Prebendal, Eglwys Gadeiriol Llandaf

Prynhawn o sgyrsiau yn cyflwyno gwaith sydd ar y gweill ar seintiau yng Nghymru. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys Llyfr Llandaf, bucheddau seintiau Cymreig, yn cynnwys Dyfrig, Teilo ac Euddogwy, nawddseintiau eglwys gadeiriol Llandaf, a gwydr lliw yn yr adeilad.

Siaradwyr: Paul Russell, David Parsons, Ben Guy a Martin Crampin

Chwedlau’r Seintiau

Dechrau Bonedd y Saint

Dydd Sadwrn 3 Mehefin 2017 10.30–4.00
Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn y gynhadledd undydd hon cyflwynwyd ffrwyth gwaith ymchwil prosiect pedair blynedd o olygu bucheddau Cymraeg, barddoniaeth, ac achau seintiau yng Nghymru, a lansiwyd prosiect ymchwil newydd ar fucheddau Lladin y Seintiau Cymreig.

Siaradwyr: David Parsons, Paul Russell, Alaw Mai Edwards, Jenny Day, Ann Parry Owen, Martin Crampin, J. Wyn Evans

Padarn a Seintiau Cymru

Ffurf ar groes cerrig Llanbadarn Fawr

Dydd Sadwrn 1 Ebrill 2017
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Fawr

Prynhawn o sgyrsiau am Badarn a seintiau Cymru, yn tynnu ar dystiolaeth llenyddiaeth ganoloesol, enwau lleoedd a diwylliant gweledol.

Siaradwyr: Gerald Morgan, Paul Russell, David Parsons, Martin Crampin a Peter Lord

Trefnwyd y digwyddiad gan brosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru mewn cydweithrediad ag Eglwys Padarn Sant, Llanbadarn Fawr, a Gweithgor Padarn Sant 517–2017.

Sgyrsiau Llanbadarn Fawr PDF

Arddangosfa Chwedlau’r Seintiau

Chwefror – Mehefin 2017

Cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau a digwyddiadau i gyd-fynd ag arddangosfa ‘Chwedlau’r Seintiau’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Traddododd David Parsons anerchiad awr ginio yn y Llyfrgell ar 1 Mawrth, dan y teitl ‘Chwedlau’r llan: seintiau Cymru o Benfro i’r Fflint, a bu ef a Martin Crampin yn cyflwyno sgyrsiau yn yr oriel ar 29 Mawrth. Traddododd Martin anerchiad awr ginio ar 17 Mai a chynhaliwyd cynhadledd undydd yn y Llyfrgell ar 3 Mehefin.

Cyngres Ryngwladol Astudiaethau Canoloesol Leeds

4 Gorffennaf 2016

Cynhaliwyd sesiwn (Saints in Wales) yn y gynhadledd hon, a oedd yn cynnwys papurau gan Jane Cartwright, Jenny Day a Martin Crampin, gyda Janet Burton yn y gadair.

Santes Gwenfrewy a Threffynnon

Santes Gwenfrewy, medieval stained glass

Dydd Sadwrn 25 Mehefin 2016
Eglwys Sant Iago, Treffynnon

Prynhawn o sgyrsiau ar Santes Gwenfrewy a Threffynnon. Roedd y pynciau dan sylw yn cynnwys buchedd ganoloesol Gwenfrewy, barddoniaeth ganoloesol i’r santes, a phwysigrwydd y ffynnon i ymwelwyr yn y cyfnod Rhamantaidd. Cafwyd hefyd sgwrs am ffynnon Gwenfrewy a chyfle i ymweld â’r safle.

Siaradwyr: Jane Cartwright, Mary-Ann Constantine, Tristan Gray Hulse ac Eurig Salisbury

Dewi Sant & Seintiau yng Nghymru

Dewi Sant, Narberth, stained glass by Joan Fulleylove.

Dydd Llun 29 Chwefror 2016
Tŷ’r Pererin, Tyddewi

Prynhawn o sgyrsiau yn cyflwyno gwaith sydd ar y gweill ar seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys y gwahanol fersiynau Cymraeg o Fuchedd Dewi a’r gerdd i Ddewi gan Wynfardd Brycheiniog, yn ogystal â delweddau o Ddewi ac enwau lleoedd yn Sir Benfro sy’n gysylltiedig â seintiau.

Siaradwyr: Martin Crampin, Jenny Day, Ann Parry Owen a David Parsons

Seintiau Canoloesol ym Morgannwg

Mair Fadlen, Llanilltud Fawr; Mary Magdalene, Llantwit Major

Dydd Sadwrn 7 Tachwedd 2015
Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr

Prynhawn o sgyrsiau yn cyflwyno gwaith sydd ar y gweill ar seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys Buchedd Gymraeg Mair Magdalen, Buchedd Illtud, enwau lleoedd ym Morgannwg sy’n gysylltiedig â seintiau, a delweddau o seintiau mewn ffenestri lliw a cherfluniau.

Siaradwyr: Jane Cartwright, Martin Crampin, Karen Jankulak a David Parsons

Sgyrsiau Llanilltud Fawr PDF

Seintiau Canoloesol yng Ngwynedd

Deiniol - Bangor

Dydd Sadwrn 12 Medi 2015
Canolfan yr Esgobaeth, Bangor

Prynhawn o sgyrsiau yn cyflwyno gwaith sydd ar y gweill ar seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys ymchwil newydd ar seintiau lleol ac achau’r seintiau, a chafwyd taith dywys o amgylch y gadeirlan i weld delweddau o seintiau mewn gwydr lliw.

Siaradwyr: Martin Crampin, Alaw Mai Edwards, Barry Lewis a David Parsons

Sgyrsiau Bangor PDF

15fed Gyngres Ryngwladol Astudiaethau Celtaidd

14 Gorffennaf 2015, Glasgow

Cynhaliwyd sesiwn lawn (Hagiography and History 2 – The Cult of Saints in Wales) yn y gynhadledd hon, a oedd yn cynnwys papurau gan Eurig Salisbury, Alaw Mai Edwards a Barry Lewis, gyda David Parsons yn y gadair. Rhoddodd Martin Crampin bapur hefyd yn y sesiwn wedyn (Hagiography and History 3).

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phapur Martin, ac un arall ar gyfer y gynhadledd ‘The Middle Ages in the Modern World’, Prifysgol Lincoln, gweler y post blog.

Brycheiniog a’r Beirdd yn yr Oesoedd Canol

16 Mai 2015, Aberhonddu

Fel rhan o gynhadledd undydd Brycheiniog a’r Beirdd yn yr Oesoedd Canol yn Aberhonddu, ddydd Sadwrn 16 Mai, gofynnodd Eurig Salisbury ‘Sut i gael 42 o seintiau mewn un gerdd? Moliant Huw Cae Llwyd i seintiau Brycheiniog’.

Cynhadledd Cwlt y Seintiau yng Nghymru: Ffynonellau a Chyd-destunau

Cynhadledd, Caerfyddin; Conference, Carmarthen

16–19 Medi 2014, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin

Cynhaliwyd y gynhadledd hon fel rhan o’r prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru: Ffynonellau Cymraeg Canoloesol a’u Trosglwyddiad’, a ariennir gan yr AHRC. Prif nod y prosiect yw creu golygiad electronig o’r farddoniaeth a gyfeiriwyd at y seintiau, bucheddau rhyddiaith y seintiau ac achau’r seintiau, sef y tri math o destun sy’n ffurfio corpws hagiograffi’r Gymraeg.

Yn y gynhadledd hon trafodwyd y testunau hyn – y bwriad hefyd oedd eu lleoli mewn sawl cyd-destun.

Mae’r amserlen ar gael yma.