Prosiectau Seintiau

Ariannir prosiect ‘Cult y Seintiau yng Nghymru’ gan yr Arts and Humanities Research Council o 2013 i 2017 i Cynhaliwyd prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) rhwng 2013 a 2017 gyda’r nod o gynhyrchu golygiadau dwyieithog newydd o gerddi canoloesol Cymraeg, ac o fucheddau ac achau’r seintiau. Cynhaliwyd ail brosiect, ‘Vitae Sanctorum Cambriae’, hefyd dan nawdd yr AHRC a’r nod y tro hwn oedd cynhyrchu golygiadau newydd o fucheddau Lladin seintiau Cymru. Caiff yr holl destunau eu cyflwyno gyda rhagymadrodd cynhwysfawr, nodiadau a chyfieithiadau Saesneg: cyhoeddir trawsgrifiadau cyflawn o amrywiadau, a cheir delweddau ansawdd uchel o lawer o’r llawysgrifau.

Yn 2021 derbyniwyd nawdd pellach gan yr AHRC tuag at greu darpariaeth ar lein o ddau gasgliad ychwanegol o ddeunydd a fydd yn cynnig persbectif newydd ar gwlt y seintiau yng Nghymru. Bydd ‘Delweddu’r Seintiau yng Nghymru’ yn cefnogi’r testunau gyda manylion am enwau lleoedd, cysegriadau eglwysig, ffynhonnau sanctaidd a nodweddion eraill yn y tirlun sy’n gysylltiedig â seintiau, yn ogystal â chronfa ddata o’r delweddau o seintiau a geir ar hyd a lled y wlad.

  • Welsh Saints from Welsh Churches
    Roedd delweddau o seintiau yn gyffredin ym mhob eglwys yng Nghymru ers talwm. Erbyn y bymthegfed ganrif a’r unfed ganrif ar bymtheg roedd seintiau…
  • Bucheddau Lladin Gwenfrewy
    Bellach wedi’u cyhoeddi: bucheddau Lladin Gwenfrewy, golygwyd gan David Callander Dywedir mai lleian a merthyr yn trigo yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn y seithfed ganrif…
  • Seintiau Cymru, Sancti Cambrenses
    Cyfrol o ysgrifau sy’n cynnwys cyfoeth o ymchwil newydd ar wahanol agweddau ar lenyddiaeth yn ymwneud â’r seintiau yng Nghymru, hagiograffeg, barddoniaeth ac achyddiaeth….
  • Delweddu Seintiau Cymru
    Rydym yn falch iawn o gael cyflwyno prosiect blwyddyn newydd a fydd yn dwyn gwaith prosiectau ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ a ‘Vitae Sanctorum…
  • Darganfod ysgrifydd llawysgrif Yale
    Daeth llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke Osborn fb229 i’r amlwg yn 2018 gyda’i hystod gyfoethog o destunau, gan gynnwys fersiwn unigryw o fuchedd Ladin Cybi….
  • Depicting St David
    Mae llyfr newydd, Depicting St David, yn ceisio meithrin gwell dealltwriaeth o ddelweddau o Ddewi Sant yn eu holl liw ac amrywiaeth. Gellir gweld…
  • Cynadleddau Haf 2019
    Bu aelodau presennol a chyn-aelodau o dîm y prosiect yn brysur yn cyflwyno papurau mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol dros yr haf. Cynhaliodd y…
  • Darganfyddiad: Buchedd Cybi
    Mae prosiect Vitae Sanctorum Cambriae yn falch iawn o gyhoeddi darganfyddiad fersiwn newydd o Fuchedd Gybi sy’n dyddio o’r oesoedd canol. Daeth David Callander…
  • Abaty Caerloyw a Bucheddau’r Seintiau Cymreig
    Cynhaliodd tîm y prosiect brynhawn o sgyrsiau yng nghabidyldy cadeirlan Caerloyw ar 3 Tachwedd 2018. Mae arwyddocâd Caerloyw yn gydnabyddedig fel canolbwynt i gasgliad…
  • Cerddi i Ddewi Sant
    Mae dwy gerdd i Ddewi Sant wedi eu cyhoeddi Iolo Goch, Mawl i Ddewi Sant Mae’r cywydd hir hwn gan un o feirdd mwyaf…
  • Ein testun cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar lein!
    Dyma ‘Ganu i Gadfan’, awdl faith (178 llinell) a ganwyd gan Lywelyn Fardd tua’r flwyddyn 1150. Hon yw’r gynharaf o dair awdl a ganwyd…
  • Y Nawfed Colocwiwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol
    Yn y colocwiwm hwn, ar 20 Hydref 2018, bydd Martin Crampin yn rhoi papur ar ‘The Imaging of Saints in Medieval Wales’, a bydd…