| |

Seintiau Cymru, Sancti Cambrenses

Cyfrol o ysgrifau sy’n cynnwys cyfoeth o ymchwil newydd ar wahanol agweddau ar lenyddiaeth yn ymwneud â’r seintiau yng Nghymru, hagiograffeg, barddoniaeth ac achyddiaeth.

Paul Russell yn y gynhadledd ‘Llawysgrifau Cymru’

Mae Seintiau Cymru, Sancti Cambrensis: Astudiaethau ar Seintiau Cymru, Studies in the Saints of Wales wedi ei golygu gan David Parsons a Paul Russell a’i chyhoeddi gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae’n cynnwys un ar bymtheg o benodau yn y Gymraeg a’r Saesneg gan aelodau’r ddau brosiect AHRC yn ogystal ag ysgolheigion eraill a gyfrannodd at y gynhadledd ‘Vitae Sanctorum Cambriae / Lives of the Welsh Saints’ yng Nghaer-grawnt yn 2019. Lansiwyd y gyfrol yn y gynhadledd ‘Llawysgrifau Cymru’ a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ac a oedd wedi ei threfnu ar y cyd rhwng y Ganolfan Uwchefrydiau a’r Llyfrgell i ddathlu cyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800–c.1800 gan Daniel Huws.

  • Ben Guy, ‘The Vespasian Life of St Teilo and the Evolution of the Vitae Sanctorum Wallensium’
  • Joshua Byron Smith, ‘The Legend of Saint Brendan in Cotton Vespasian A.xiv’
  • Andrew Rabin, ‘Crime, Law, and the Justice of the Saints in Medieval Welsh Hagiography’
  • Barry Lewis, ‘Approaching the Genealogies of the Welsh Saints’
  • Paul Russell, ‘Translating Saints: the Latin and Welsh Versions of the Life of St David’
  • Jenny Day, ‘The Later Lives of St David in NLW MSS Peniarth 27ii, Llanstephan 34 and Peniarth 225’
  • Sarah Waidler, ‘A Welsh Hagiographical Export: The ‘Irish Recension’ of the Life of St David and the Cult of St David in Ireland’
  • Martin Crampin, ‘A Dove at his Ear: Imaging St David’
  • Jenny Day, ‘The later Lives of Mary of Egypt in NLW MS Llanstephan 34 and Cardiff, Central Library MS. 2.633’
  • Jane Cartwright, ‘The Welsh Versions of the Life of Gwenfrewy’
  • Ann Parry Owen, ‘ “Canu” Beirdd y Tywysogion i’r Saint’
  • David Callander, ‘Agweddau ar Naratif a Strwythur y Cerddi Cymraeg i’r Seintiau’
  • Francesco Marzella, ‘Gerald of Wales and the Life of St Caradog’
  • Thomas Clancy, ‘St Cadog in Scotland’
  • Paul Russell, ‘The Afterlives of St Melangell (alias Monacella)’
  • Martin Crampin, ‘The Imagery of Saints in Medieval Wales’

Mae’r llyfr ar gael i’w archebu am £25.00

ISBN 978-1-907029-32-5
394tt + xxiv, clawr caled