Ymchwil

| |

Bucheddau Lladin Gwenfrewy

Bellach wedi’u cyhoeddi: bucheddau Lladin Gwenfrewy, golygwyd gan David Callander Dywedir mai lleian a merthyr yn trigo yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn y seithfed ganrif oedd Gwenfrewy. Ceisiodd uchelwr o’r enw Caradog ei denu, ond fe’i gwrthododd. Digiodd yntau a thorri ei phen ymaith â’i gleddyf. Yn y fan lle syrthiodd y pen, tarddodd ffynnon, a…

| |

Seintiau Cymru, Sancti Cambrenses

Cyfrol o ysgrifau sy’n cynnwys cyfoeth o ymchwil newydd ar wahanol agweddau ar lenyddiaeth yn ymwneud â’r seintiau yng Nghymru, hagiograffeg, barddoniaeth ac achyddiaeth. Mae Seintiau Cymru, Sancti Cambrensis: Astudiaethau ar Seintiau Cymru, Studies in the Saints of Wales wedi ei golygu gan David Parsons a Paul Russell a’i chyhoeddi gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a…

| |

Delweddu Seintiau Cymru

Rydym yn falch iawn o gael cyflwyno prosiect blwyddyn newydd a fydd yn dwyn gwaith prosiectau ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ a ‘Vitae Sanctorum Cambriae’ i sylw cynulleidfa ehangach. Bydd prosiect ‘Delweddu Seintiau Cymru’ yn gyfrifol am greu rhyngwyneb digidol newydd gyda’r nod o drawsnewid ymgysylltiad y cyhoedd â’r gwaith ymchwil ar seintiau Cymru. Roedd…

| |

Darganfod ysgrifydd llawysgrif Yale

Daeth llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke Osborn fb229 i’r amlwg yn 2018 gyda’i hystod gyfoethog o destunau, gan gynnwys fersiwn unigryw o fuchedd Ladin Cybi. Bellach, mae Gruffudd Antur, sy’n cydweithio â Daniel Huws ar ei Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, wedi darganfod mai Robert Davies II o Wysanau (m. 1633) oedd yn gyfrifol am…

| |

Darganfyddiad: Buchedd Cybi

Mae prosiect Vitae Sanctorum Cambriae yn falch iawn o gyhoeddi darganfyddiad fersiwn newydd o Fuchedd Gybi sy’n dyddio o’r oesoedd canol. Daeth David Callander (cymrawd ymchwil gyda VSC yn 2017–8) o hyd i’r Fuchedd tra’n ymchwilio i’r ysgolhaig a’r Iesuwr Gwilym Farrar. Ceir yr unig gopi o’r Fuchedd yn Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb 229….

| | |

Abaty Caerloyw a Bucheddau’r Seintiau Cymreig

Cynhaliodd tîm y prosiect brynhawn o sgyrsiau yng nghabidyldy cadeirlan Caerloyw ar 3 Tachwedd 2018. Mae arwyddocâd Caerloyw yn gydnabyddedig fel canolbwynt i gasgliad o draddodiadau sy’n ymwneud â’r seintiau yng Nghymru, ac mae’r ffaith fod bucheddau Cadog, Gwynllyw, Padarn ac eraill wedi eu cynnwys yn nghasgliad Cotton Vespasian o fucheddau Lladin yn adlewyrchu patrwm…

| | |

Ein testun cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar lein!

Dyma ‘Ganu i Gadfan’, awdl faith (178 llinell) a ganwyd gan Lywelyn Fardd tua’r flwyddyn 1150. Hon yw’r gynharaf o dair awdl a ganwyd gan feirdd y ddeuddegfed ganrif i’r saint: bydd ‘Canu Tysilio’ gan Gynddelw Brydydd Mawr a ‘Chanu i Ddewi’ gan Wynfardd Brycheiniog yn ymddangos ar y wefan yn fuan iawn. Diogelwyd ‘Canu…