Ymchwil

| | |

Y Nawfed Colocwiwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol

Yn y colocwiwm hwn, ar 20 Hydref 2018, bydd Martin Crampin yn rhoi papur ar ‘The Imaging of Saints in Medieval Wales’, a bydd Ann Parry Owen yn traddodi Darlith Gyweirnod ‘Cain awen gan awel bylgaint – Canu Beirdd y Tywysogion i Gadfan, Tysilio a Dewi’. Bydd Ann yn tynnu sylw at ei golygiad newydd o Ganu…

| | |

Cynhadledd Chwedlau’r Seintiau

Daeth aelodau a chyn-aelodau o baneli ymgynghorol prosiect ‘Cwlt y Seintiau’ a phrosiect ‘Vitae Sanctorum Cambriae’ ynghyd yn Aberystwyth ar gyfer cynhadledd ‘Chwedlau’r Seintiau’, a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 3 Mehefin 2017 Bu’r siaradwyr yn trafod bucheddau Lladin a Chymraeg Dewi Sant; bucheddau Cymraeg Martin a Chollen; barddoniaeth Gymraeg o’r ddeuddegfed ganrif sy’n…

| |

Vitae Sanctorum Cambriae: Bucheddau Lladin Seintiau Cymru

Daw’r nawdd ar gyfer prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ i ben ym mis Mawrth 2017, ac rydym wrthi’n cwblhau’r gwaith ar y golygiad ar lein a’r arddangosfa a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Er hyn, mae’n hyfrydwch gennym adrodd y bydd gwaith newydd ar fucheddau seintiau yng Nghymru yn mynd rhagddo gan inni sicrhau…

|

Santes Gwenfrewy yn Eglwys Gadeiriol Amwythig

Daethpwyd â chreiriau Gwenfrewy o Wytherin i abaty Amwythig yn 1138. Dewiswyd y santes yn gyd-nawddsant ar gyfer esgobaeth Gatholig Amwythig, a ffurfiwyd yn 1851 ac a oedd yn ymestyn yn wreiddiol o Orllewin Canolbarth Lloegr ar draws Cymru yr holl ffordd i Fôn, cyn ffurfio esgobaeth Mynyw yn 1895. Agorwyd eglwys gadeiriol Amwythig yn…

| |

Sgyrsiau a draddodwyd yn Nhyddewi

Mae’r sgyrsiau a draddodwyd yn y digwyddiad a gynhaliwyd gan y prosiect yn Nhyddewi bellach ar gael ar lein, drwy ddilyn y dolenni isod. Diolch i Jane Cartwright a chydweithwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am eu cymorth i drefnu’r ddarpariaeth hon. Jenny Day ‘The Lives of St David’ (gyda rhagymadrodd gan Dafydd Johnston)Ann…

| |

Buchedd Marthin

Mae Jenny Day wedi bod yn golygu Buchedd Marthin, trosiad Cymraeg o Vita Sancti Martini Sulpicius Severus (c.360–?c.430) (un o’r bucheddau cynharaf a mwyaf dylanwadol) ac o ddarnau o destunau eraill gan Sulpicius a chan Gregory o Tours (c.538/9–94). Bydd hi’n siarad yn y Fforwm Undydd, ‘Gutun Owain a thraddodiad llenyddol y gogledd-ddwyrain’ am sut…

| |

Sgyrsiau a draddodwyd ym Mangor a Llanilltud Fawr

Recordiwyd y sgyrsiau a draddodwyd ym Mangor a Llanilltud Fawr a gellir eu gwylio drwy ddilyn y dolenni isod: Bangor David Parsons ‘Introduction to the Saints in Wales Project’Alaw Mai Edwards ‘Seintiau Gwynedd yn Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol’Barry Lewis ‘Bonedd y Saint’ Llanilltud Fawr Jane Cartwright ‘Mair Fadlen a’r Bucheddau Cymraeg’ (gyda rhagymadrodd gan Dafydd Johnston)Karen…