| |

Vitae Sanctorum Cambriae: Bucheddau Lladin Seintiau Cymru

Daw’r nawdd ar gyfer prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ i ben ym mis Mawrth 2017, ac rydym wrthi’n cwblhau’r gwaith ar y golygiad ar lein a’r arddangosfa a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Er hyn, mae’n hyfrydwch gennym adrodd y bydd gwaith newydd ar fucheddau seintiau yng Nghymru yn mynd rhagddo gan inni sicrhau Ysgoloriaeth Ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). O fis Ionawr 2017 ymlaen cynhelir prosiect tair blynedd newydd, ‘Vitae Sanctorum Cambriae: Bucheddau Lladin Seintiau Cymru’, gan Adran Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg Prifysgol Caer-grawnt, mewn cydweithrediad â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Yr Athro Paul Russell (Caer-grawnt) yw’r Prif Archwilydd, a’r Cyd-Archwilwyr yw Dr Rosalind Love (Caer-grawnt) a Dr David Parsons (y Ganolfan). Bydd Dr Martin Crampin (y Ganolfan) yn parhau â’i waith ar y prosiect ac mae Dr Ben Guy (Caer-grawnt) wedi ei benodi yn un o ddau Gynorthwyydd Ymchwil a fydd yn gweithio ar y golygiad newydd.