| | |

Cynhadledd Chwedlau’r Seintiau

_DSC9051_D52A-b

Daeth aelodau a chyn-aelodau o baneli ymgynghorol prosiect ‘Cwlt y Seintiau’ a phrosiect ‘Vitae Sanctorum Cambriae’ ynghyd yn Aberystwyth ar gyfer cynhadledd ‘Chwedlau’r Seintiau’, a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 3 Mehefin 2017

Bu’r siaradwyr yn trafod bucheddau Lladin a Chymraeg Dewi Sant; bucheddau Cymraeg Martin a Chollen; barddoniaeth Gymraeg o’r ddeuddegfed ganrif sy’n annerch y seintiau; a pharhad a’r proses o greu traddodiadau yn ymwneud â seintiau Cymru.

Cynhaliwyd y gynhadledd yn ystod wythnos olaf arddangosfa ‘Chwedlau’r Seintiau’ yn y Llyfrgell Genedlaethol, a honno wedi ei threfnu gan dîm y prosiect mewn cydweithrediad â staff y Llyfrgell.

Siaradwyr yn y cynhadledd.

Siaradwyr

Dr David Parsons, ‘Saints crossing boundaries: the development of the Seintiau project’
Yr Athro Paul Russell, ‘Translating the saints: the Latin and Welsh versions of the Life of St David’
Dr Alaw Mai Edwards, ‘Milwr, abad a meudwy: Collen Sant a’i Fuchedd’
Dr Jenny Day, ‘Aspects of the cult of St Martin of Tours in medieval Wales’
Yr Athro Ann Parry Owen, ‘Y ‘canu’ i’r saint: ailystyried y tair awdl o’r ddeuddegfed ganrif’
Dr Martin Crampin, ‘King Lucius, St Elfan, Pope Eleutherius, Baron Merthyr, and the coming of Christianity to Wales’
Y Gwir Barchedig J. Wyn Evans, ‘St David, the afterlife of a saint’