Seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol

Cadwed f’enaid, synned sŷr,
Catwg fawr wrthfawr ferthyr.

Rhisiart ap Rhys, c.1500

Gelwid ar y sentiau i iacháu ac i amddiffyn, ac am eu cymorth wrth geisio sicrhau iachawdwriaeth dragwyddol. Roedd eu creiriau a delweddau ohonynt i’w gweld yn yr eglwysi a gysegrwyd iddynt ac y byddai pererinion yn ymweld â hwynt.

Sant Cristoffer, o’r bymthegfed ganrif, Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr, sir Forgannwg. Llun: Martin Crampinn

 

Dechrau Bonedd y Saint, LlGC Llanstephan 28, c.1150–1250. Drwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae testunau canoloesol yn dadlennu traddodiad cyfoethog yn ymwneud â seintiau lleol yng Nghymru, yn ogystal â seintiau a oedd yn hysbys ar draws y byd Cristnogol. Yn ôl y traddodiadau hyn, roedd y seintiau’n cyflawni gwyrthiau, yn ymladd â chewri ac angenfilod ac yn atgyfodi’r meirw, ond roeddynt hefyd yn barod i farw dros eu ffydd. Ysgrifennid ‘bucheddau’ rhyddiaith yn Lladin ac yn Gymraeg, ac mae’r rheini sydd wedi goroesi yn cyfeirio at ragor o hanesion coll ac yn ceisio gwneud synnwyr o draddodiadau sy’n anghyson â’i gilydd.

Ychydig o’r ffynonellau hyn a ysgrifennwyd cyn yr unfed ganrif ar ddeg ac maent i gyd yn llawer mwy diweddar na’r cyfnod pan oedd y dynion a’r merched y daethpwyd yn ddiweddarach i’w mawrygu fel seintiau wrthi’n sefydlu eu heglwysi a’u habatai yng Nghymru yn gynnar yn yr Oesoedd Canol.

 

Bucheddau’r Seintiau
Cerddi i’r Seintiau
Achau’r Seintiau
Seintiau yn y Cyfnod Modern