Delweddu’r Seintiau Cymru
Ceid toreth o ddelweddau o seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol, ac fe’i gwelid ym mhob eglwys a chapel preifat. Er i’r rhan fwyaf o lawer gael eu colli yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, parhaodd cymdeithasau Reciwsantaidd i’w coleddu, a daethant i gael eu gweld fwyfwy drachefn mewn eglwysi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen.
Bydd cronfa ddata chwiliadwy o ddelweddau canoloesol a modern o seintiau yng Nghymru ar gael ar y wefan hon o 2023 ymlaen.
Yn y cyfamser, gellir canfod nifer o ddelweddau o seintiau mewn gwydr lliw yn y catalog ar lein chwiliadwy Gwydr Lliw yng Nghymru.