|

Sgyrsiau diweddar yn Leeds a Marburg

Aelodau'r tîm y prosiect yn Leeds.
Jane Cartwright, Martin Crampin, Janet Burton (cadair y sesiwn) a Jenny Day yn Leeds, Gorffennaf 2016 (llun: Therron Welstead)

Bu aelodau o’r tîm yn rhannu gwaith newydd yn deillio o’r prosiect dros yr haf. Trefnodd Jane Cartwright sesiwn ar seintiau Cymru ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol Astudiaethau Canoloesol yn Leeds, a thraddododd hi a’i chyd-weithwyr, Martin Crampin a Jenny Day, bapurau yno.

Gwahoddwyd Jane i Brifysgol Marburg yn yr Almaen hefyd i annerch cynulleidfa o ysgolheigion sy’n gweithio ar destunau canoloesol yn ogystal ag Astudiaethau Celtaidd. Soniodd am ei gwaith ar fuchedd Santes Wrswla mewn Cymraeg Canol, sef Hystoria Gweryddon yr Almaen, yn ogystal ag am y gyfrol ar gwlt rhyngwladol Santes Wrswla sydd newydd ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.