Darganfyddiad: Buchedd Cybi
Mae prosiect Vitae Sanctorum Cambriae yn falch iawn o gyhoeddi darganfyddiad fersiwn newydd o Fuchedd Gybi sy’n dyddio o’r oesoedd canol.
Daeth David Callander (cymrawd ymchwil gyda VSC yn 2017–8) o hyd i’r Fuchedd tra’n ymchwilio i’r ysgolhaig a’r Iesuwr Gwilym Farrar. Ceir yr unig gopi o’r Fuchedd yn Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb 229. Mae hon yn llawysgrif a fu hyd hyn yn hollol anhysbys i ysgolheigion Cymraeg ond eto y mae o bwysigrwydd dwfn ar gyfer ein dealltwriaeth o hagiograffeg Gymreig. Mae hon yn gasgliad amryw o ddeunydd hagiograffaidd o’r 17eg ganrif, yn cynnwys copïau o destunau canoloesol yn Gymraeg, Lladin, a Saesneg. Nid yw’r llawysgrif wedi derbyn sylw o gwbl gan ysgolheigion Cymraeg, ac mae’n darparu deunydd cyfoethog ar gyfer astudio Cymru yn yr oesoedd canol a’r cyfnod modern cynnar.
Y testun pwysicaf yn y llawysgrif hon yw fersiwn unigryw o fuchedd Ladin ganoloesol Cybi (o Gaergybi). Ceir dau fersiwn o fuchedd Cybi yn Cotton Vespasian A XIV, sef y llawysgrif sy’n cynnwys y nifer fwyaf o fucheddau Lladin seintiau Cymru. Mae’r dau fersiwn yn debyg iawn i’w gilydd ac maent heb os yn deillio o’r un fuchedd wreiddiol. Mae’r fuchedd newydd yn perthyn i’r testunau hyn hefyd, ond yn llawer llai agos. Mae’n cynnwys deunydd unigryw, gan gynnwys disgrifiad o gyfarfod rhwng Cybi a’r Pab, a stori am Gybi’n symud maen mawr o’r fynedfa i fasilica Pedr.
Mae’r defnydd o orgraff ganoloesol trwy gydol y testun yn dangos bod y fuchedd yn dyddio o’r oesoedd canol yn hytrach na’r cyfnod modern cynnar. Yn wir, mae’r Fuchedd newydd yn canolbwyntio’n gryf ac yn gyson ar bortreadu Caergybi fel esgobaeth, ac mae’n ddigon posibl nad yw’r agwedd hon yn ddiweddarach na’r 11eg ganrif, fel Buchedd Padarn, sydd â ffocws tebyg, er bod rhai elfennau o fuchedd Cybi yn amlwg yn ddiweddarach.
Mae gweddïau unigryw yn dilyn y Fuchedd newydd yn llawysgrif Yale, ac mae’r rhain bron yr un mor diddorol â’r Fuchedd ei hun. Hynod brin yw’r deunydd litwrgaidd sy’n ymwneud â seintiau brodorol Cymru sy’n goroesi yng Nghymru, ac mae’r gweddïau hyn yn cynnig cipolwg unigryw ar grefydd ac addoliad ym Môn yn yr oesoedd canol.
Gall y Fuchedd hollol newydd yma (ynghyd â’r llawysgrif esgeulusedig sy’n ei chynnwys) gyfrannu’n sylweddol at ein dealltwriaeth o hagiograffeg Gymreig. Mae David yn bwriadu cyhoeddi blaenffrwyth y darganfyddiad yn y dyfodol agos.