Seintiau Llandaf
Bu tîm y prosiect yn ymweld â chadeirlan Llandaf ar 11 Tachwedd 2017, wrth i ni ailafael yn ein teithiau i wahanol rannau o Gymru i rannu ffrwyth ein hymchwil. Y siaradwyr y tro hwn oedd David Parsons, Ben Guy, Paul Russell a Martin Crampin. Roedd yr amrywiol bynciau a drafodwyd yn cynnwys eglwysi sydd wedi eu cysegru i Ddyfrig, Teilo ac Euddogwy (y tri sant Cymreig a gysylltir â’r gadeirlan); cysylltiadau Teilo â Llandaf yn y cyfnod cynnar; a’r fersiynau Lladin a Chymraeg o hawliau Teilo (a chadeirlan Llandaf) a gofnodir yn Llyfr Llandaf.
Ar ôl te, cynhaliwyd sgwrs olaf y dydd yn y gadeirlan, a hynny yng nghapel Dyfrig, lle mae’r ffenestr liw yn portreadu seintiau sy’n fwy cydnaws â gweledigaeth Iolo Morganwg o Gristnogaeth gynnar yng Nghymru nag un yr Esgob Urban yn y ddeuddegfed ganrif. Y bwriad yn wreiddiol oedd y byddem yn arwain taith dywys o amgylch y gadeirlan i’r fan hon i ddechrau, er mwyn dangos cerfluniau cerfwedd Frank Roper ac Alan Durst o Deilo a Dyfrig, ond roedd cymaint ohonom yno fel nad oedd yn ymarferol bosib i ni gynnal taith o’r fath i edrych ar bob un o’r gweithiau celf!
Roedd yr arddangosfa deithiol i’w gweld yn y gadeirlan tan ganol mis Rhagfyr.