Ein testun cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar lein!
Dyma ‘Ganu i Gadfan’, awdl faith (178 llinell) a ganwyd gan Lywelyn Fardd tua’r flwyddyn 1150. Hon yw’r gynharaf o dair awdl a ganwyd gan feirdd y ddeuddegfed ganrif i’r saint: bydd ‘Canu Tysilio’ gan Gynddelw Brydydd Mawr a ‘Chanu i Ddewi’ gan Wynfardd Brycheiniog yn ymddangos ar y wefan yn fuan iawn. Diogelwyd ‘Canu i Gadfan’ yn Llawysgrif Hendregadredd gan ysgrifydd a weithiai, yn ôl pob tebyg, yn sgriptoriwm Ystrad-fflur tua 1300. Eglwys Cadfan yn Nhywyn, Meirionnydd, yw canolbwynt diddordeb y gerdd, ac yn arbennig nawdd a braint yr eglwys a’i lleoliad yn nhirwedd hardd bro Dysynni. Ni chadwyd buchedd i Gadfan (fel y cadwyd buchedd i Ddewi Sant), felly mae’r gerdd yn ffynhonnell gwybodaeth bwysig i ni am Gadfan, am y traddodiadau amdano ac am ei greiriau, sef ei ffon fagl a’i lyfr o’r Efengylau a gedwid yn ei eglwys yn Nhywyn yn yr Oesoedd Canol.