Buchedd Marthin
Mae Jenny Day wedi bod yn golygu Buchedd Marthin, trosiad Cymraeg o Vita Sancti Martini Sulpicius Severus (c.360–?c.430) (un o’r bucheddau cynharaf a mwyaf dylanwadol) ac o ddarnau o destunau eraill gan Sulpicius a chan Gregory o Tours (c.538/9–94). Bydd hi’n siarad yn y Fforwm Undydd, ‘Gutun Owain a thraddodiad llenyddol y gogledd-ddwyrain’ am sut cafodd y testunau Lladin hyn eu trosi i’r Gymraeg a’u haddasu ar gyfer cynulleidfa Gymreig ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Cynhelir y Fforwm ar 14 Mai 2016 yn Aberystwyth.