Arddangosfa yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Mae arddangosfa ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ bellach wedi cyrraedd Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar gyfer prynhawn o sgyrsiau ar Ddewi Sant a seintiau yng Nghymru a gynhelir yn Nhŷ’r Pererin, gerllaw’r eglwys ar fryn y Cwcwll, ar 29 Chwefror.
Mae’r arddangosfa i’w gweld yn ystlys ogleddol y côr. Bydd yno hyd 12 Mawrth, a gobeithio y bydd yn denu sylw’r sawl fydd yn ymweld â’r eglwys Ddydd Gŵyl Dewi, sef dydd Mawrth, 1 Mawrth 2016.
Yn ychwanegol at y rhaglen a baratowyd ar gyfer 29 Chwefror, bydd yr awdur Gerald Morgan yn ymuno â ni i sôn am ei gyfrol newydd ar hanes Dewi, nawddsant Cymru. Bydd y llyfr, Ar Drywydd Dewi Sant, yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol ym mis Mawrth. I gadw lle yn y digwyddiad, sy’n rhad ac am ddim, cysylltwch ag a.elias@cymru.ac.uk.
Ceir rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar y poster hwn.