Arddangosfa yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Yn dilyn saib yn y gweithgareddau, ac wedi i ni orfod canslo digwyddiad yn Lincoln ym mis Mawrth oherwydd eira, mae arddangosfa’r ‘Seintiau yng Nghymru’ bellach yn ôl, ac i’w gweld yn eglwys gadeiriol Llanelwy.
Cynhelir yr arddangosfa rhwng 30 Gorffennaf a 4 Medi, pan fydd aelodau o’r tîm yn ymweld â’r eglwys gadeiriol i siarad am waith y prosiect. Mae trawsgrifiadau o’r cyfnod modern cynnar yn tystio i’r ffaith fod Llyfr Coch Asa, a gollwyd wedi hynny, yn cynnwys buchedd Ladin i Asa, ac mae David Callander wrthi’n gweithio ar olygiad newydd o’r fuchedd honno.
Os hoffech ddod i gwrdd ag aelodau o dîm y prosiect yn Llanelwy, byddwn yn ymgynnull yn adain ddeheuol yr eglwys am 2.00 ar 4 Medi.