Chwedlau’r Seintiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae prosiect ymchwil ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth wedi bod wrthi’n golygu ac yn cyfieithu bucheddau canoloesol seintiau Cymru, barddoniaeth sydd wedi ei chyfeirio atynt, ac achau’r seintiau. Wrth i’r prosiect dynnu tua’r terfyn, cynhelir arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, rhwng 18 Chwefror a 10 Mehefin 2017, lle cyflwynir llawysgrifau o’r Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar sy’n ffynhonnell i’r testunau hyn.
Yn rhan o’r arddangosfa bydd llawysgrifau Cymraeg pwysig o’r Oesoedd Canol fel llawysgrif Hendregadredd, Llyfr Llandaf a Llyfr Oriau Llanbeblig, ochr yn ochr â llawysgrifau ‘reciwsantaidd’ o’r cyfnod modern cynnar sy’n cynnwys bucheddau a barddoniaeth i’r seintiau o’r Oesoedd Canol.
Bydd cynhadledd undydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 3 Mehefin. Cynhelir sgyrsiau ar bynciau perthnasol i’r prosiect hefyd yn y Llyfrgell, gan David Parsons (1 Mawrth) a Martin Crampin (17 Mai), a sgyrsiau yn yr oriel ar 29 Mawrth.