| |

Llwybr y Pererinion i Dreffynnon

Interior of the well chamber.

Cynhelir digwyddiad nesaf y prosiect y Sadwrn hwn yn Nhreffynnon yn Sir y Fflint. Ond nid yw hwn ond un o’r digwyddiadau sydd i’w cynnal yn y dref yr wythnos hon. Mae criw o gerddwyr eisoes wedi cychwyn o Abaty Amwythig ers 18 Mehefin ac yn aildroedio’r llwybr y credir i Harri V deithio hyd-ddo yn 1416 yn dilyn Brwydr Agincourt y flwyddyn flaenorol. Croesewir y cerddwyr mewn gwasanaeth cydenwadol ddydd Gwener, 24 Mehefin, a bydd Pererindod Blynyddol yr Esgobaeth yn cael ei gynnal yn Nhreffynnon ddydd Sul, 26 Mehefin.

Am ragor o wybodaeth ynghylch digwyddiadau’r wythnos, gweler yr adroddiad hwn gan y BBC a gwefan St Winefride’s Well (Saesneg yn unig). Am wybodaeth bellach am ein sgyrsiau ni ddydd Sadwrn, gweler y tudalen Digwyddiadau ar y wefan hon.