Cymraeg

|

Sgyrsiau diweddar yn Leeds a Marburg

Bu aelodau o’r tîm yn rhannu gwaith newydd yn deillio o’r prosiect dros yr haf. Trefnodd Jane Cartwright sesiwn ar seintiau Cymru ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol Astudiaethau Canoloesol yn Leeds, a thraddododd hi a’i chyd-weithwyr, Martin Crampin a Jenny Day, bapurau yno. Gwahoddwyd Jane i Brifysgol Marburg yn yr Almaen hefyd i annerch cynulleidfa o…

| |

Sgyrsiau a draddodwyd yn Nhyddewi

Mae’r sgyrsiau a draddodwyd yn y digwyddiad a gynhaliwyd gan y prosiect yn Nhyddewi bellach ar gael ar lein, drwy ddilyn y dolenni isod. Diolch i Jane Cartwright a chydweithwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am eu cymorth i drefnu’r ddarpariaeth hon. Jenny Day ‘The Lives of St David’ (gyda rhagymadrodd gan Dafydd Johnston)Ann…

| |

Buchedd Marthin

Mae Jenny Day wedi bod yn golygu Buchedd Marthin, trosiad Cymraeg o Vita Sancti Martini Sulpicius Severus (c.360–?c.430) (un o’r bucheddau cynharaf a mwyaf dylanwadol) ac o ddarnau o destunau eraill gan Sulpicius a chan Gregory o Tours (c.538/9–94). Bydd hi’n siarad yn y Fforwm Undydd, ‘Gutun Owain a thraddodiad llenyddol y gogledd-ddwyrain’ am sut…

| |

Sgwrs i ddisgyblion Coleg Llanymddyfri

Daeth dangosiad diweddaraf ein harddangosfa deithiol i ben ddydd Sadwrn, 12 Mawrth. Cyn datgymalu a phacio popeth, gofynnwyd i mi gyflwyno sgwrs i ddisgyblion Blwyddyn 9 o Goleg Llanymddyfri a oedd yn ymweld â Thyddewi am y penwythnos. Yn ogystal â defnyddio’r arddangosfa yn gymorth gweledol ar gyfer y sgwrs, cawsom gyfle i edrych ar…

| |

Arddangosfa yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Mae arddangosfa ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ bellach wedi cyrraedd Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar gyfer prynhawn o sgyrsiau ar Ddewi Sant a seintiau yng Nghymru a gynhelir yn Nhŷ’r Pererin, gerllaw’r eglwys ar fryn y Cwcwll, ar 29 Chwefror. Mae’r arddangosfa i’w gweld yn ystlys ogleddol y côr. Bydd yno hyd 12 Mawrth, a gobeithio…

| |

Sgyrsiau a draddodwyd ym Mangor a Llanilltud Fawr

Recordiwyd y sgyrsiau a draddodwyd ym Mangor a Llanilltud Fawr a gellir eu gwylio drwy ddilyn y dolenni isod: Bangor David Parsons ‘Introduction to the Saints in Wales Project’Alaw Mai Edwards ‘Seintiau Gwynedd yn Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol’Barry Lewis ‘Bonedd y Saint’ Llanilltud Fawr Jane Cartwright ‘Mair Fadlen a’r Bucheddau Cymraeg’ (gyda rhagymadrodd gan Dafydd Johnston)Karen…