Croeso i Seintiau!

Image of Gwenfrewy from a stained glass window.

Nyd oes wlad yn holl Gred o gymaint o dir a chymaint o saint ynddei ag oedd gynt ymhlith Cymbry

Mae seintiau yn poblogi tirwedd Cymru mewn enwau lleoedd, cysegriadau eglwysi a ffynhonnau sanctaidd. O Sain Ffagan i Landudno, o Dyddewi i Bennant Melangell, mae enwau seintiau yn rhan annatod o wead y wlad. Mae ambell un fel Dewi a Beuno yn enwau cyfarwydd, ond mae llawer wedi eu hanghofio.

Nod gwefan Seintiau yw cyflwyno ffrwyth ein hymchwil ar seintiau Cymru. Ers 2013 mae prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ wedi bod wrthi’n creu golygiad digidol o ryw gant o destunau Cymraeg Canol am y seintiau, nifer ohonynt heb eu golygu o’r blaen, ac eraill ar wasgar ac yn amrywiol eu safon. Darparwyd testunau modern dibynadwy gyda nodiadau manwl a chyfieithiadau Saesneg, gan agor y traddodiad hagiograffig Cymraeg i astudiaeth yng Nghymru a’r tu hwnt. Bydd y testunau hyn ar gael yn fuan ar y wefan, yn ogystal â chasgliad o wybodaeth am y seintiau a’u traddodiadau.

Ar yr un pryd ag y mae’r gwaith hwn yn dwyn ffrwyth, mae prosiect newydd, ‘Vitae Sanctorum Cambriae’, wedi dechrau ymdrin â bucheddau Lladin seintiau Cymru. Bydd golygiadau o’r testunau Lladin hyn yn ymddangos ar y wefan yn ystod 2019.

Rhagor o wybodaeth am y prosiect

Arddangosfa Chwedlau’r Seintiau

Seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol
Bucheddau’r Seintiau
Cerddi i’r Seintiau
Achau’r Seintiau
Seintiau yn y Cyfnod Modern