Depicting St David
Mae llyfr newydd, Depicting St David, yn ceisio meithrin gwell dealltwriaeth o ddelweddau o Ddewi Sant yn eu holl liw ac amrywiaeth.
Gellir gweld delweddau o Ddewi Sant yn llawer o eglwysi’r genedl, yn bennaf ar ffurf gwydr lliw a cherflunwaith o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Y llyfr hwn yw’r cyntaf i astudio’r ddelweddaeth, ac nid yw’r rhan fwyaf o’r 170 o ddelweddau erioed wedi’u cyhoeddi o’r blaen. Mae’r llyfr yn cynnwys gwybodaeth am yr artistiaid a’r stiwdios a’u gwnaeth, a straeon sy’n gysylltiedig â Dewi Sant.
Mae Depicting St David yn arddangos yr ystod eang o ffyrdd y cafodd Dewi Sant ei ddarlunio: fel hen ddyn a dyn ifanc; wedi’i wisgo mewn regalia esgobol neu fel mynach syml; yn sefyll ar ei ben ei hun, gyda seintiau eraill, neu mewn lluniau o olygfeydd o’i fywyd.
Martin Crampin, Depicting St David (Talybont, Y Lolfa, 2020)