Seintiau yn y Cyfnod Modern
There is a very large and well-known well … at Clynnog, Ffynnon Beuno, “St. Beuno’s Well,” which was considered to have miraculous healing powers; and even yet, I believe, some people have faith in it.
John Rhŷs, Celtic Folklore, 1901, cyf. 1, p. 363.
Ffynnon Cybi, Llangybi, Sir Caernarfon. Llun: Martin Crampin
Santes Gwenfrewy, 1886, Cysegrfan Santes Gwenfrewy, Treffynnon, sir y Fflint.. Llun: Martin Crampin
Ceisiwyd atal yr arfer o foli seintiau yng Nghymru adeg y Diwygiad Protestannaidd yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg. Dinistriwyd creiriau a ffynhonnau sanctaidd a delwau o seintiau a gwyngalchwyd waliau a oedd yn dangos lluniau o fywydau’r seintiau. Goroesodd rhai traddodiadau lleol mewn eglwysi a ffynhonnau sanctaidd a pharhaodd y reciwsantiaid Catholig i gofio’r seintiau.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg rhoddwyd rhyddid crefyddol i Gatholigion yng Nghymru ac ar sail cryfder y mudiad Eingl-Gatholig oddi mewn i Eglwys Lloegr dechreuwyd comisiynu cerfluniau o seintiau ar gyfer yr eglwysi unwaith eto. Yn ystod yr ugeinfed ganrif ailddechreuwyd cynnal pererindodau i fannau a oedd yn gysegredig yn ystod yr Oesoedd Canol, fel Treffynnon, Tyddewi ac Aberteifi.
Seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol
Bucheddau’r Seintiau
Cerddi i’r Seintiau
Achau’r Seintiau