Croeso i Seintiau!
Nyd oes wlad yn holl Gred o gymaint o dir a chymaint o saint ynddei ag oedd gynt ymhlith Cymbry
Mae seintiau’n poblogi tirwedd Cymru mewn enwau lleoedd, cysegriadau eglwysi a ffynhonnau sanctaidd. O Sain Ffagan i Landudno, o Dyddewi i Bennant Melangell, mae enwau seintiau’n rhan annatod o wead y wlad. Mae ambell un, fel Dewi a Beuno, yn adnabyddus, ond mae llawer wedi eu hanghofio.
Nod y wefan hon yw cyflwyno ffrwyth ein hymchwil ar seintiau Cymru. Ers 2013 mae prosiectau ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ a ‘Vitae Sanctorum Cambriae’ wedi bod wrthi’n creu golygiadau digidol o lawer o’r testunau canoloesol Cymraeg a Lladin sy’n ymwneud â’r seintiau. Ein gwaith ni fu darparu testunau modern dibynadwy gyda nodiadau manwl a chyfieithiadau i’r Saesneg, gan ddod â’r traddodiad hagiograffig Cymreig i fod ar gael i’r sawl a fyn ei astudio y tu mewn a’r tu allan i Gymru.
Yn ogystal â hyn, rydym wedi bod yn gweithio ar ‘seintiadur’, sy’n wyddoniadur o wybodaeth am y seintiau a’r eglwysi sydd wedi eu cysegru iddynt. Yn gysylltiedig â hyn mae casgliad mawr sy’n parhau i dyfu o ddelweddau o’r seintiau fel y maent wedi eu cerflunio, eu peintio a’u portreadu mewn gwydr lliw dros y canrifoedd.
Rhagor o wybodaeth am y prosiect
Arddangosfa Chwedlau’r Seintiau
Seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol
Bucheddau’r Seintiau
Cerddi i’r Seintiau
Achau’r Seintiau
Seintiau yn y Cyfnod Modern