Bucheddau Lladin Gwenfrewy
Bellach wedi’u cyhoeddi: bucheddau Lladin Gwenfrewy, golygwyd gan David Callander
Dywedir mai lleian a merthyr yn trigo yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn y seithfed ganrif oedd Gwenfrewy. Ceisiodd uchelwr o’r enw Caradog ei denu, ond fe’i gwrthododd. Digiodd yntau a thorri ei phen ymaith â’i gleddyf. Yn y fan lle syrthiodd y pen, tarddodd ffynnon, a hynny agosaf at eglwys lle roedd Beuno wrthi’n pregethu. Gosododd Beuno y pen yn ôl yn ei le, a thrwy wyrth, atgyfododd Gwenfrewy o farw’n fyw. Daeth y ffynnon, yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, i fod yn un o’r prif gyrchfannau i bererinion yng Nghymru, ac mae’n parhau i fod felly hyd heddiw.
Ceir dwy fuchedd Ladin o’r Oesoedd Canol sy’n adrodd yr hanes mewn ffordd ddigon tebyg, ond ymddengys eu bod yn annibynnol ar ei gilydd. Copi yn Cotton Claudius A. v, llawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig sy’n dyddio o tua 1200 OC, yw’r ffynhonnell orau ar gyfer un ohonynt, gan awdur anhysbys. Cyfansoddwyd y llall gan yr Abad Robert o Amwythig o ddeutu 1140 OC, yn fuan wedi i greiriau Gwenfrewy gael eu symud o Wytherin yn Sir Ddinbych (lle dywedir iddi ddiweddu ei hoes yn lleian). Ceir y ffynhonnell fwyaf cyflawn ar gyfer y fersiwn hwn yn llawysgrif Rhydychen, Laud Misc. 114, a chedwir fersiwn ychydig mwy cryno yng Ngholeg y Drindod, Caer-grawnt. Mae’r pedwerydd fersiwn canoloesol, a geir yn llawysgrif y Llyfrgell Brydeinig, Lansdowne 436, yn cyfuno elfennau o’r fuchedd anhysbys ac un Robert o Amwythig.
Mae David Callendar wedi golygu a chyfieithu pob un o’r pedair llawysgrif ar wahân am y tro cyntaf erioed, fel y gellir astudio’r testunau yn annibynnol fel cynyrchiadau unigol.
Bydd golygiad newydd o’r fuchedd Gymraeg ganoloesol a ddeilliodd o hon, sef Buchedd Gwenfrewy, wedi’i olygu gan Jane Cartwright, yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan maes o law.