Welsh Saints from Welsh Churches
Roedd delweddau o seintiau yn gyffredin ym mhob eglwys yng Nghymru ers talwm. Erbyn y bymthegfed ganrif a’r unfed ganrif ar bymtheg roedd seintiau lleol a rhyngwladol i’w gweld wedi eu peintio a’u cerfio ar allorau a sgriniau, yn ogystal ag ar waliau ac yng ngwydr y ffenestri. Roedd ffigurau mwy, yn sefyll ar eu traed, hefyd i’w canfod mewn eglwysi canoloesol, ac mae’n debyg mai’r rhain oedd y cyntaf i gael eu gwaredu a’u dinistrio adeg y Diwygiad Protestannaidd.
Er bod rhai delweddau o seintiau wedi goroesi o ddiwedd yr Oesoedd Canol, ychydig iawn y gellir dweud yn bendant amdanynt eu bod yn cynrychioli seintiau Cymreig. Mae’r portreadau o seintiau Cymru sydd i’w gweld mewn eglwysi heddiw yn dyddio’n bennaf o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Fe’u ceir yn bennaf ar ffurf gwydr lliw a cherfluniau, ac mae eu hanes yn cael ei adrodd am y tro cyntaf mewn llyfr newydd a gyhoeddwyd yn 2023.
Does prin ddim o’r delweddau hyn wedi eu cyhoeddi nac wedi bod yn destun astudiaeth o’r blaen, ac mae’r gyfrol, gyda thua 580 o ddarluniau, yn cynnig cyfle i gymharu’r portreadau o wahanol seintiau. Weithiau bydd y delweddau yn cynnwys cyfeiriadaeth at y bucheddau, a cheir golygfeydd ychwanegol ar dro sy’n adlewyrchu rhannau o’r straeon hynny.
Mae Welsh Saints from Welsh Churches yn rhoi cyflwyniad i seintiau Cymru, trosolwg cronolegol o’r ddelweddaeth, a’r defnydd o eiconograffeg. Dilynir hyn gan gasgliadau o ddelweddau o tua deugain o seintiau, gwrywaidd a benywaidd, o eglwysi ar hyd a lled Cymru, sy’n dangos sut y portreadwyd gwahanol seintiau gan wahanol arlunwyr dros y degawdau.
Gwerthir y gyfrol gan y cyhoeddwr, Y Lolfa am £35. Gweler tudalennau yma.
ISBN 978-1-912631-16-2
256 + xvi, clawr caled