Cerddi i’r Seintiau
Cadw y tir, ein ceidwad da,
Cynog o wlad Frecania!Torres y gormes dy gig,
Hywel Dafi, cyn 1500
Dy forddwyd di, o fawrddig.
Yno y daeth, enaid ethawl,
Arf i ti i orfod diawl
St Cynog, about 1910, Brecon Cathedral, by James Powell & Sons. Photo: Martin Crampin
A fifteenth-century poem to St Cynog in the hand of Llywelyn Siôn, NLW Llanstephan 47, c.1590– c.1613.
Courtesy National Library of Wales
Mae cerdd o’r bymthegfed ganrif gan Hywel Dafi yn adrodd hanes Sant Cynog, mab i Frychan Brycheiniog, yn ei aberthu ei hun mewn brwydr yn erbyn angenfilod a fu’n poeni pobl Ceredigion ac Aberhonddu. Torch aur yw’r arf gwyrthiol sydd ganddo yn y stori, a gwyddys bod hwnnw’n grair uchel ei barch yn yr eglwys ym Merthyr Cynog yn yr Oesoedd Canol. Mae rhan o’r stori hefyd i’w chanfod mewn chwedl werin o’r ddeunawfed ganrif, ond mae natur dywyll y farddoniaeth ganoloesol yn golygu bod llawer o fanylion y chwedl wreiddiol yn aneglur.
Mae dros 60 o gerddi tebyg i’r seintiau wedi goroesi o’r Oesoedd Canol: mae’r genre yn anarferol mewn cyd-destun Ewropeaidd ac yn amlwg yn deillio o’r traddodiad cryf o ganu mawl i arglwyddi seciwlar.
Seintiau yng Nghymru’r Oesoedd Canol
Bucheddau’r Seintiau
Achau’r Seintiau
Seintiau yn y Cyfnod Modern