Delweddu’r Seintiau Cymru

Roedd delweddau o seintiau yn frith yng Nghymru’r Oesoedd Canol; fe’u ceid ym mhob eglwys a chapel preifat. Er i’r rhan fwyaf o lawer gael eu colli yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, daliai cymunedau Reciwsantaidd i drysori delweddau o seintiau, ac ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg maent unwaith eto wedi bod yn cael eu comisiynu fwyfwy ar gyfer eglwysi. Dechreuwyd gweld amrywiaeth eang o ddelweddau o seintiau yn yr eglwysi Catholig newydd, er bod yr addoldai Protestannaidd fel arfer yn eu cyfyngu dim ond i’r seintiau hynny sy’n ymddangos yn y Beibl, megis y disgyblion a’r efengylwyr. O’r 1880au ymlaen, a thrwy gydol yr ugeinfed ganrif, roedd rhagor o ddelweddau o seintiau lleol yn cael eu comisiynu ar gyfer gwahanol eglwysi, wrth i ddiddordeb yn y traddodiad Cristnogol Cymreig gynyddu.

Mae cronfa ddata ‘Delweddu’r Seintiau yng Nghymru’ yn cynnwys cannoedd o ddelweddau y gellir chwilio amdanynt yn ôl lleoliad, y math o waith celf, dyddiad ac yn ôl y sant neu gyfuniadau o seintiau. Mae’r rhan fwyaf o’r delweddau a geir yn y gronfa ddata i’w gweld mewn addoldai, ond ceir hefyd gofnodion o wahanol fathau o ddelweddau y gwyddys eu bod ar gadw mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru, ynghyd â deunydd darluniadol o lyfrau a llawysgrifau. Mae rhagor o gofnodion yn cael eu hychwanegu i’r gronfa.

Delweddu Cronfa Ddata Seintiau Cymru

Cyhoeddwyd yr astudiaeth Welsh Saints from Welsh Churches gan Martin Crampin yn 2023, ac mae cyfrol arall, Depicting St David, yn cynnwys llawer rhagor o ddelweddau o nawddsant Cymru.

Cyhoeddwyd ymdriniaeth fanylach ar ddelweddaeth Dewi Sant yn Seintiau Cymru, Sancti Cambrenses (2022). Ceir rhestr o’r holl ddelweddau hysbys o seintiau o Gymru’r Oesoedd Canol yn yr un gyfrol, ynghyd â thrafodaeth ragarweiniol.

Canolbwyntiodd erthygl arall ar ddelweddu seintiau Cymreig yn y ffenestri lliw gan Celtic Studios, Abertawe, yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Martin Crampin, Welsh Saints from Welsh Churches (Talybont, Y Lolfa, 2023), 256 tt + xvi.

Martin Crampin, Depicting St David (Talybont, Y Lolfa, 2020), 76 tt + iv.

Martin Crampin, ‘A Dove at his Ear: Imaging St David’, yn David N. Parsons a Paul Russell (gol.), Seintiau Cymru, Sancti Cambrenses: Astudiaethau ar Seintiau Cymru / Studies in the Saints of Wales (Aberystwyth, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2022), 187–208.

Martin Crampin, ‘The Imagery of Saints in Medieval Wales’, yn David N. Parsons a Paul Russell (gol.), Seintiau Cymru, Sancti Cambrenses: Astudiaethau ar Seintiau Cymru / Studies in the Saints of Wales (Aberystwyth, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2022), 345–79.

Martin Crampin, ‘Welsh Saints in Stained Glass by Celtic Studios’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, cyfres newydd, cyf. 29 (2023), 11–23.