Newyddion

| |

Sgwrs i ddisgyblion Coleg Llanymddyfri

Daeth dangosiad diweddaraf ein harddangosfa deithiol i ben ddydd Sadwrn, 12 Mawrth. Cyn datgymalu a phacio popeth, gofynnwyd i mi gyflwyno sgwrs i ddisgyblion Blwyddyn 9 o Goleg Llanymddyfri a oedd yn ymweld â Thyddewi am y penwythnos. Yn ogystal â defnyddio’r arddangosfa yn gymorth gweledol ar gyfer y sgwrs, cawsom gyfle i edrych ar…

| |

Arddangosfa yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Mae arddangosfa ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ bellach wedi cyrraedd Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar gyfer prynhawn o sgyrsiau ar Ddewi Sant a seintiau yng Nghymru a gynhelir yn Nhŷ’r Pererin, gerllaw’r eglwys ar fryn y Cwcwll, ar 29 Chwefror. Mae’r arddangosfa i’w gweld yn ystlys ogleddol y côr. Bydd yno hyd 12 Mawrth, a gobeithio…

| |

Eglwys Gadeiriol Bangor

Wedi cael prynhawn gwych o sgyrsiau yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Braf cael croesawu’r Athro Barry yn ôl o Ddulyn. Cawsom groeso cynnes gan archddiacon Bangor, Paul Davies: diolch yn fawr iddo ef a’i gydweithwyr. Yn dilyn sgyrsiau yng Nghanolfan yr Esgobaeth, aethom ymlaen i’r Esglwys Gadeiriol a thywysodd Martin Crampin ni o gwmpas y seintiau mewn…

| |

Bangor Cathedral

Had a great afternoon of talks at Bangor Cathedral. Good to welcome Professor Barry back from Dublin. A warm welcome from the Archdeacon of Bangor Paul Davies: many thanks to him and his colleagues. After talks in the Diocesan Centre we moved to the Cathedral and Martin Crampin guided us round the saints in stained glass…

| |

Digwyddiadau agored ym Mangor (12 Medi) a Llanilltud Fawr (7 Tach)

Seintiau Canoloesol Yng Ngwynedd Dydd Sadwrn 12 Medi 2015, 2.00–5.00Canolfan yr Esgobaeth, Clôs y Gadeirlan, Bangor Sgyrsiau Bangor PDF Seintiau Canoloesol Ym Morgannwg Dydd Sadwrn 7 Tachwedd 2015, 2.00–5.00Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr Sgyrsiau Llanilltud Fawr PDF

| |

Cynhadledd: Caerfyrddin, 16-19 Medi

Cwlt y Seintiau yng Nghymru: Ffynonellau a Chyd-destunau 16–19 Medi 2014 Canolfan Halliwell, Caerfyrddin Cynhelir y gynhadledd hon fel rhan o’r prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru: Ffynonellau Cymraeg Canoloesol a’u Trosglwyddiad’, a ariennir gan yr AHRC. Prif nod y prosiect yw creu golygiad electronig o’r farddoniaeth a gyfeiriwyd at y seintiau, bucheddau rhyddiaith y…