Newyddion

| |

Asa, Cyndeyrn a Seintiau Cymru

Ar 4 Medi 2018 daeth cyfle i dîm y prosiect ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llanelwy lle cawsom rannu ffrwyth ein hymchwil a chyflwyno’r syniadau ysgolheigaidd diweddaraf ynglŷn ag Asa a Chyndeyrn. Roedd gwaith David Callendar ar fuchedd Asa o Lyfr Coch Asa – llawysgrif a gollwyd, ond nid cyn i’r fuchedd gael ei thrawsgrifio yn…

| |

Arddangosfa yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Yn dilyn saib yn y gweithgareddau, ac wedi i ni orfod canslo digwyddiad yn Lincoln ym mis Mawrth oherwydd eira, mae arddangosfa’r ‘Seintiau yng Nghymru’ bellach yn ôl, ac i’w gweld yn eglwys gadeiriol Llanelwy. Cynhelir yr arddangosfa rhwng 30 Gorffennaf a 4 Medi, pan fydd aelodau o’r tîm yn ymweld â’r eglwys gadeiriol i…

| | |

Cynhadledd Chwedlau’r Seintiau

Daeth aelodau a chyn-aelodau o baneli ymgynghorol prosiect ‘Cwlt y Seintiau’ a phrosiect ‘Vitae Sanctorum Cambriae’ ynghyd yn Aberystwyth ar gyfer cynhadledd ‘Chwedlau’r Seintiau’, a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 3 Mehefin 2017 Bu’r siaradwyr yn trafod bucheddau Lladin a Chymraeg Dewi Sant; bucheddau Cymraeg Martin a Chollen; barddoniaeth Gymraeg o’r ddeuddegfed ganrif sy’n…

| |

Chwedlau’r Seintiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae prosiect ymchwil ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth wedi bod wrthi’n golygu ac yn cyfieithu bucheddau canoloesol seintiau Cymru, barddoniaeth sydd wedi ei chyfeirio atynt, ac achau’r seintiau. Wrth i’r prosiect dynnu tua’r terfyn, cynhelir arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, rhwng 18 Chwefror a…

| |

Vitae Sanctorum Cambriae: Bucheddau Lladin Seintiau Cymru

Daw’r nawdd ar gyfer prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ i ben ym mis Mawrth 2017, ac rydym wrthi’n cwblhau’r gwaith ar y golygiad ar lein a’r arddangosfa a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Er hyn, mae’n hyfrydwch gennym adrodd y bydd gwaith newydd ar fucheddau seintiau yng Nghymru yn mynd rhagddo gan inni sicrhau…

|

Sgyrsiau diweddar yn Leeds a Marburg

Bu aelodau o’r tîm yn rhannu gwaith newydd yn deillio o’r prosiect dros yr haf. Trefnodd Jane Cartwright sesiwn ar seintiau Cymru ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol Astudiaethau Canoloesol yn Leeds, a thraddododd hi a’i chyd-weithwyr, Martin Crampin a Jenny Day, bapurau yno. Gwahoddwyd Jane i Brifysgol Marburg yn yr Almaen hefyd i annerch cynulleidfa o…