| |

Delweddu Seintiau Cymru

Rydym yn falch iawn o gael cyflwyno prosiect blwyddyn newydd a fydd yn dwyn gwaith prosiectau ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ a ‘Vitae Sanctorum Cambriae’ i sylw cynulleidfa ehangach. Bydd prosiect ‘Delweddu Seintiau Cymru’ yn gyfrifol am greu rhyngwyneb digidol newydd gyda’r nod o drawsnewid ymgysylltiad y cyhoedd â’r gwaith ymchwil ar seintiau Cymru.

Roedd y ddau brosiect blaenorol, dan nawdd yr AHRC, yn canolbwyntio ar baratoi golygiadau newydd o destunau canoloesol Cymraeg a Lladin ar seintiau yng Nghymru. Ariennir ‘Delweddu Seintiau Cymru’ hefyd gan yr AHRC a bydd yr adnodd ar lein a ddeillia ohono yn cynnwys dau gasgliad ychwanegol o ddeunydd a fydd yn cynnig agweddau newydd ar gyltiau seintiau yng Nghymru.

Sant Deiniol, gwydr lliw
Burlison & Grylls, Sant Deiniol, 1925, Eglwys Dewi Sant, Llanarth, Ceredigion

Y cyntaf o’r rhain yw casgliad helaeth o ddelweddau yn portreadu’r gwahanol seintiau a geir ar hyd a lled Cymru, yn amrywio o furluniau canoloesol i wydr lliw modern. Yr ail yw casgliad o waith ymchwil diweddar ar y cysylltiadau rhwng seintiau a gwahanol leoliadau o amgylch Cymru: cysylltiadau o ran enwau lleoedd, cysegriadau eglwysig, ffynhonnau sanctaidd a nodweddion eraill yn y tirlun, yn ogystal â lleoliadau a digwyddiadau sy’n cael eu disgrifio yn y testunau canoloesol.

Ceir yr wybodaeth hon yn nodiadau’r golygiadau, ond bydd bellach yn cael ei chynnwys mewn cronfa ddata a fydd yn cofnodi’r cysylltiadau rhwng pob sant a gwahanol leoliadau o amgylch Cymru. Golyga hyn y bydd modd chwilota a phori drwy’r delweddau ac archwilio tirlun y seintiau ar hyd a lled y wlad, a bydd y data hefyd yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer creu mapiau digidol yn dangos ardaloedd sy’n gysylltiedig â’r gwahanol seintiau. Ar bob cam, bydd defnyddwyr yn cael cyfle i symud rhwng a dysgu am wahanol agweddau ar yr adnodd, a chael ateb i gwestiynau ynglŷn â pha seintiau a fawrygid mewn ardal, newidiadau yn y modd y câi seintiau eu portreadu dros y canrifoedd, disgrifiadau o wahanol dirluniau mewn testunau canoloesol, a chysylltiad sant penodol â seintiau eraill. Ceir cyfeiriadau at ffynonellau gwreiddiol ym mhob rhan, yn cynnwys y testunau canoloesol a oedd yn ganolbwynt i’n hymchwil gychwynnol.

eglwys Llanddewi Felffre
Eglwys Llanddewi Felffre, Sir Benfro

Byddwn yn cyfuno ein data ni gyda chasgliadau cenedlaethol ein partneriaid, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae dros hanner miliwn o ddefnyddwyr yn ymweld â’u casgliadau ar lein hwy bob blwyddyn, a bydd rhannu ein hadnoddau yn gwella deunydd y Comisiwn ar y naill law, ac ar y llaw arall yn darparu cyd-destun pellach ar gyfer ein gwaith newydd ninnau ar fannau sy’n gysylltiedig â seintiau a’r dreftadaeth adeiledig yng Nghymru. Bydd y prosiect hefyd yn cryfhau’r berthynas gydweithredol a fu rhwng y Ganolfan a’r Comisiwn ers blynyddoedd bellach ym maes Enwau Lleoedd Hanesyddol, yn ogystal â datblygu ein hymchwil arloesol ar ddiwylliant gweledol yng Nghymru.