Digwyddiadau

| | |

Abaty Caerloyw a Bucheddau’r Seintiau Cymreig

Cynhaliodd tîm y prosiect brynhawn o sgyrsiau yng nghabidyldy cadeirlan Caerloyw ar 3 Tachwedd 2018. Mae arwyddocâd Caerloyw yn gydnabyddedig fel canolbwynt i gasgliad o draddodiadau sy’n ymwneud â’r seintiau yng Nghymru, ac mae’r ffaith fod bucheddau Cadog, Gwynllyw, Padarn ac eraill wedi eu cynnwys yn nghasgliad Cotton Vespasian o fucheddau Lladin yn adlewyrchu patrwm…

| | |

Y Nawfed Colocwiwm Bangor ar Gymru’r Oesoedd Canol

Yn y colocwiwm hwn, ar 20 Hydref 2018, bydd Martin Crampin yn rhoi papur ar ‘The Imaging of Saints in Medieval Wales’, a bydd Ann Parry Owen yn traddodi Darlith Gyweirnod ‘Cain awen gan awel bylgaint – Canu Beirdd y Tywysogion i Gadfan, Tysilio a Dewi’. Bydd Ann yn tynnu sylw at ei golygiad newydd o Ganu…

| |

Asa, Cyndeyrn a Seintiau Cymru

Ar 4 Medi 2018 daeth cyfle i dîm y prosiect ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llanelwy lle cawsom rannu ffrwyth ein hymchwil a chyflwyno’r syniadau ysgolheigaidd diweddaraf ynglŷn ag Asa a Chyndeyrn. Roedd gwaith David Callendar ar fuchedd Asa o Lyfr Coch Asa – llawysgrif a gollwyd, ond nid cyn i’r fuchedd gael ei thrawsgrifio yn…

| |

Arddangosfa yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Yn dilyn saib yn y gweithgareddau, ac wedi i ni orfod canslo digwyddiad yn Lincoln ym mis Mawrth oherwydd eira, mae arddangosfa’r ‘Seintiau yng Nghymru’ bellach yn ôl, ac i’w gweld yn eglwys gadeiriol Llanelwy. Cynhelir yr arddangosfa rhwng 30 Gorffennaf a 4 Medi, pan fydd aelodau o’r tîm yn ymweld â’r eglwys gadeiriol i…

| | |

Cynhadledd Chwedlau’r Seintiau

Daeth aelodau a chyn-aelodau o baneli ymgynghorol prosiect ‘Cwlt y Seintiau’ a phrosiect ‘Vitae Sanctorum Cambriae’ ynghyd yn Aberystwyth ar gyfer cynhadledd ‘Chwedlau’r Seintiau’, a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 3 Mehefin 2017 Bu’r siaradwyr yn trafod bucheddau Lladin a Chymraeg Dewi Sant; bucheddau Cymraeg Martin a Chollen; barddoniaeth Gymraeg o’r ddeuddegfed ganrif sy’n…

| |

Chwedlau’r Seintiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae prosiect ymchwil ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth wedi bod wrthi’n golygu ac yn cyfieithu bucheddau canoloesol seintiau Cymru, barddoniaeth sydd wedi ei chyfeirio atynt, ac achau’r seintiau. Wrth i’r prosiect dynnu tua’r terfyn, cynhelir arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, rhwng 18 Chwefror a…