Arddangosfa Chwedlau’r Seintiau

Seintau-MC_DSC8281_53A Cynhaliwyd arddangosfa o lawysgrifau canoloesol sy’n cynnwys bucheddau ac achau’r seintiau, yn ogystal â cherddi iddynt, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 18 Chwefror hyd at 10 Mehefin 2017. Amlyga’r arddangosfa hon oroesiad y traddodiadau canoloesol am y gwŷr a’r gwragedd sanctaidd sy’n cynrychioli rhan bwysig o etifeddiaeth ddiwylliannol y wlad.

Seintau-MC_DSC8279_53AGelwid ar y sentiau i iacháu ac i amddiffyn, ac am eu cymorth wrth geisio sicrhau iachawdwriaeth dragwyddol yn yr Oesoedd Canol. Roedd eu creiriau a delweddau ohonynt i’w gweld yn yr eglwysi a gysegrwyd iddynt a byddai pererinion yn ymweld â hwynt.

Mae hagiograffeg ganoloesol Gymraeg yn dadlennu traddodiad cyfoethog yn ymwneud â seintiau lleol yng Nghymru, yn ogystal â seintiau a oedd yn hysbys ar draws y byd Cristnogol. Yn ôl y traddodiadau hyn, roedd y seintiau’n cyflawni gwyrthiau, yn ymladd â chewri ac angenfilod ac yn atgyfodi’r meirw, ond roeddynt hefyd yn barod i farw dros eu ffydd. Ysgrifennid ‘bucheddau’ rhyddiaith yn Lladin ac yn Gymraeg, ac mae’r rheini sydd wedi goroesi yn cyfeirio at ragor o hanesion coll ac yn ceisio gwneud synnwyr o draddodiadau sy’n anghyson â’i gilydd. Mae testunau achyddol yn rhestru seintiau yn ôl eu perthynas â’i gilydd, ac yn cynnwys enwau nifer o seintiau na wyddom y nesaf i ddim amdanynt.

Seintau-MC_DSC8270_53ACeir llawysgrifau canoloesol pwysig yn yr arddangosfa, fel Llawysgrif Hendregadredd, Llyfr Llandaf, a Llyfr Oriau Llanbeblig, ochr yn ochr â llawysgrifau reciwsant modern cynnar yn cynnwys Bucheddau saint canoloesol hwyr a barddoniaeth. Mae’r bucheddau hyn o’r seintiau’n cofnodi cyfoeth o draddodiad am seintiau lleol yng Nghymru, yn ogystal â seintiau adnabyddus ar draws y byd Cristnogol.

Seintau-MC_DSC8276_53AYn ogystal, fe ychwanegwyd deunydd gweledol pellach o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru i waliau’r oriel. Roedd hyn yn cynnwys peintiadau o Ddewi Sant gan Hugh Williams ac Evan Walters, a dyluniadau a chartwnau o ffenestri lliw yn portreadu seintiau gan Celtic Studios, A.L. Wilkinson a John Petts. Hefyd yn rhan o’r arddangosfa roedd ffotograffau o ddelweddau canoloesol o seintiau mewn paent, gwydr lliw a cherfluniau a geir mewn eglwysi ar hyd a lled Cymru.

Traddododd aelodau o dîm y prosiect ddarlithoedd awr ginio a sgyrsiau yn yr oriel.

 

 

Rhestr o Lawysgrifau

Moliant i seintiau Brycheiniog (Huw Cae Llwyd), Peniarth MS 54i (c. 1480)

Canu Tysilio Sant (Cynddelw Brydydd Mawr), MS 4973 B (c. 1620–34)
Seintiau Enlli (Hywel Dafi; Tomas Celli), Llanstephan MS 47 B (c. 1600)
Santes Dwynwen o Landdwyn, Peniarth MS 55 A (c. 1500)

Buchedd Lawrens, Llanstephan MS 34 B (1580 × 1600)
Llyfr Oriau ‘De Grey’, MS 15537 C (c. 1450)
Vita Teliaui / Buchedd Teilo, MS 17110 E, Llyfr Llandaf (hanner cyntaf y ddeuddegfed ganrif)
Llyfr Oriau Llanbeblig, MS 17520 A (1390 x 1400)

Buchedd Dewi, Llanstephan MS 27 C, Llyfr Coch Talgarth (c. 1400)
Canu i Ddewi (Gwynfardd Brycheiniog), MS 6680 B, Llawysgrif Hendregadredd (c.1300, Ystrad Fflur)
Bonedd y Saint, Llanstephan MS 28 B (1455–6)
Llyfr Gweddi 1567, W.d.1646

Buchedd Gwenfrewy, Peniarth MS 225 B (1594–1610)
Ffynnon Gwenfrewy yn Nhreffynnon, Peniarth MS 112 D (1609–21)
Cywydd i Feuno (Rhys Goch Eryri), Peniarth MS 120 E (c. 1696–7)
Thomas Pennant, A Tour in Wales, PD9867 (1784)